Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Tachwedd 2011
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth
Cymdeithasol)
1. Ar 1 Tachwedd 2011, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) i’r Pwyllgor Menter a Busnes, er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd yn ôl arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Menter a Busnes adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 16 Tachwedd 2011.